Hydref 2019 

English version to follow 


 

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Cefnogir y gronfa drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a noddir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) ar gael i fusnesau micro a bychan sydd â llai na 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn.

Mae MSBF yn gronfa fuddsoddi sy’n targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.   

Bydd cymorth o rhwng £25,000 a £500,000 yn cael ei ystyried, er mwyn:

· creu a diogelu swyddi

· sicrhau lles a datblygiad economaidd

· sicrhau ansawdd, arloesedd a naws am le. 

Ydych chi’n gymwys

I wybod a yw eich prosiect yn gymwys am gymorth cysylltwch â ni ar tourism.industryadvice@llyw.cymru neu 0845 010 8020.



Cynllun Cymhorthdal Cyflog Canolfan Waith

Mae’r cynllun newydd hwn wedi cael ei gyflwyno i gynorthwyo cyflogwyr i gyflogi staff newydd.

Caiff y cynllun ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a’i ddarparu gan Fenter Môn.

· Mae’r cynllun yn rhoi cyfraniad o 50% tuag at gyflog cyfranogwyr – yn seiliedig ar gyfradd o £8.21 yr awr a hyd at £1707 y person.

· Gall y busnes dderbyn cyfranogwr ar leoliad ar y cynllun am gyfnod o:

20 awr yr wythnos am 16 wythnos

16 awr yr wythnos am 26 wythnos

· Rhaid i gyfranogwyr fod yn 25 oed neu hŷn ac yn ddi-waith ar hyn o bryd.

· Bydd Menter Môn yn talu’r cyfranogwr yn llawn bob wythnos, a bydd y busnes yn talu cyfraniad o 50% i Fenter Môn tuag at y cyflog trwy fandad wythnosol.

· Gall y cyflogwr dalu mwy na’r gyfradd bob awr a’u cyflogi am fwy o oriau.

Fodd bynnag, bydd rhaid i hyn fod yn drefniant ar wahân, nad yw’n rhan o’r cynllun.

· Mae grant bychan hefyd ar gael ar gyfer hyfforddiant a dillad i bob ymgeisydd

· Y gobaith yw y bydd swydd barhaol gyda’r busnes ar ddiwedd y cynllun

· Nid oes unrhyw waith papur na ffurflenni i’w cwblhau.

Bydd Menter Môn yn delio â’r holl waith papur a materion AD yn uniongyrchol gyda’r cyfranogwr

Os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun, cysylltwch â:

Julie Dubberley

Swyddog Cefnogi Cyflogaeth

Rhif ffôn: 01248 725700 neu 07917 155955

E-bost: julie@mentermon.com

Menter Môn

Llangefni

Ynys Môn

LL77 7LR    




Eithriadau ar gyfer gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW

Mae’r Grŵp Diwygio Treth Incymau Isel yn annog busnesau sydd methu dod o hyd i feddalwedd hygyrch addas, er mwyn cydymffurfio â gofynion

Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, i ymgeisio ar gyfer eithriad dros dro.

Gall trethdalwyr busnesau sydd methu â defnyddio meddalwedd Gwneud Treth yn Ddigidol, oherwydd materion hygyrchedd, megis oedran, anabledd neu leoliad, wneud cais i CThEM am eithriad.

Fodd bynnag, bydd angen i drethdalwyr wirio’n rheolaidd a oes meddalwedd hygyrch newydd sy’n diwallu eu hanghenion ar gael.

Darllen Mwy




Annog busnesau sy’n tyfu i wneud cais am gymorth Twf Swyddi Cymru

Mae Cambrian Training, yn y Trallwng, un o brif ddarparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru, yn annog cyflogwyr sy’n creu cyfleoedd gwaith newydd i ystyried gwneud cais am gymorth oddi wrth Twf Swyddi Cymru (JGW) cyn i’r rhaglen ddod i ben.

Nod y rhaglen yw galluogi busnesau sy’n tyfu ledled Cymru i greu cyfleoedd gwaith cynaliadwy ar gyfer pobl ifanc sy’n ddi-waith ac yn barod am swydd rhwng 16-24 mlwydd oed.

Bydd aelodau o staff newydd yn cael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol am o leiaf 25 awr yr wythnos, ac mae’r rhaglen yn ad-dalu hanner eu costau cyflog am y chwe mis cyntaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn disodli JGW â rhaglen wahanol fis Mawrth nesaf, felly mae Hyfforddiant Cambrian yn annog cyflogwyr i beidio â gwastraffu unrhyw amser wrth wneud cais am gymorth.

Nod y rhaglen, y mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn ei chefnogi, yw darparu cyfle gwerthfawr i bobl ifanc sy’n barod am waith i roi hwb i’w gyrfa.

Er mwyn cael cymorth, mae’n rhaid i fusnes greu swydd go iawn ac nid lleoliad gwaith chwe mis neu ddarpariaeth dros dro ac mae’n rhaid ei fod wedi masnachu am fwy na chwe mis yn y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru.    

Darllen Mwy




Basgedi Nadolig

Mae Canolfan Groeso Llandudno yn cynnig gwasanaeth pecynnu Basgedi pwrpasol, lle byddent yn creu basgedi personol gan ddefnyddio detholiad eang o fwydydd, diodydd ac anrhegion wedi’u cynhyrchu’n lleol.

Maent yn cynnig ystod o fasgedi o wahanol feintiau wedi’u lapio’n hardd gyda rhuban.

Y llynedd bu’r Ganolfan Groeso yn brysur yn creu 82 o fasgedi Nadoligaidd ar gyfer Gwesty St. George. Roedd y basgedi’n boblogaidd iawn, gyda chymaint o adborth cadarnhaol...ac rydym wedi cael cais eto eleni i ddarparu’r basgedi Nadoligaidd i westeion y gwesty.

Gellir creu’r basgedi ar gyfer nifer o achlysuron gwahanol, er enghraifft i groesawu gwesteion arbennig i’ch sefydliad, fel anrhegion diolch i gwsmeriaid a staff neu fel gwobrau raffl.

I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol neu gyngor am y basgedi, ffoniwch 01492 577577 neu galwch heibio’r Ganolfan Groeso yng Nghanolfan Siopa Fictoria lle gall y staff eich cynorthwyo chi i greu eich basged bersonol eich hunain.


 

Dywedodd Cheryl Gourlay, Rheolwr Cenedlaethol Merched mewn Busnes NatWest:

“Mae merched yn cychwyn busnesau gyda 53% yn llai o arian ar gyfartaledd na dynion, maen nhw’n aml yn llai ymwybodol o opsiynau ariannu, ac yn llai tebygol o gael benthyciadau. Rydyn ni eisiau gweld hynny’n newid oherwydd bod cyfoeth o ddoniau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.

“Mae Back Her Business yn cynnig platfform cyllid agored a chefnogaeth a chymorth mentora rhwng pobl busnes.”

Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.

Darlen Mwy


 

Mawrth 12 Tachwedd 2019

Mae busnesau’n cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Dydd Mawrth Porffor i ddysgu mwy am y bunt borffor – grym gwario pobl anabl a’u teuluoedd.

Mae Dydd Mawrth Porffor yn alwad genedlaethol i fynd i’r gad a fydd yn cael ei gynnal ar 12 Tachwedd 2019. Wedi ei greu a’i gydlynu gan Purple (sefydliad anabledd), mae’n dathlu pŵer y bunt borffor ac yn gofyn i fusnesau wneud addewid i wella eu cynnig i bobl anabl.

Drwy gofrestru’n rhad ac am ddim ar gyfer Dydd Mawrth Porffor mae modd i fusnesau ddysgu sut i ymrwymo i gamau gweithredu fydd yn gwella profiadau cwsmeriaid anabl.

Cliciwch yma i dderbyn rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer Dydd Mawrth Porffor, ac ymuno â sefydliadau ar draws y byd i newid profiadau cwsmeriaid anabl.

Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth


Digwyddiadau i Ddod 




Cynhadledd Twristiaeth Go North Wales
Dydd Iau 28 Tachwedd 2019

Cynhelir Cynhadledd Twristiaeth Go North Wales yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug, CH7 1YA ddydd Iau 28 Tachwedd 2019 o 9.30-16.00.

Cynhelir y Gynhadledd gan Dwristiaeth Gogledd Cymru mewn partneriaeth gyda Sir y Fflint mewn Busnes a bydd yn uno arweinwyr y farchnad, busnesau twristiaeth a chapteiniaid ein diwydiant ar draws y DU.

Dewch i glywed siaradwyr dylanwadol a llawn ysbrydoliaeth yn trafod eu profiadau. Hwn fydd y digwyddiad gorau eto.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle cliciwch YMA 


Academi Mentrau Cymdeithasol

Mae Creu Menter yn falch iawn eu bod wedi cyflwyno’r Academi Arweinyddiaeth byd-eang i Gymru, a gaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn wahanol iawn i raglenni arweinyddiaeth traddodiadol eraill y mae cwmnïau yn gyfarwydd â nhw, ac yn ystod y 15 mlynedd y mae’r Academi wedi bod yn weithredol, mae’r canlyniadau wedi bod yn wych ar gyfer busnesau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni amrywiol.

Mae’r rhaglenni yn amrywio o 1 diwrnod i 12 diwrnod, o gyrsiau cyflwyno i gyrsiau lefel uwch, gan gynnwys Arweinyddiaeth, Hyfforddi, Menter ac Effaith Gymdeithasol.

Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth    


DIGWYDDIAD CYDRADDOLDEB IECHYD MENYWOD

23 Hydref 2019

Canolfan Busnes Conwy, LL31 9XX

WHEE CYMRU

Mae FTWW yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i’r Digwyddiad Cydraddoldeb Iechyd Menywod Cymru Gyfan cyntaf erioed – WHEE Cymru!

Mae WHEE Cymru wedi datblygu o’n sgyrsiau gyda menywod a’r rhai sy’n darparu ein gwasanaethau iechyd, boed hynny’n bersonél rheng flaen neu’n swyddogion Llywodraeth Cymru, a nod WHEE Cymru yw rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb mewn iechyd a chydraddoldeb menywod ddod at ei gilydd, i ddysgu a chydweithio.

Nod y digwyddiad yw cychwyn sgyrsiau cadarnhaol a datblygu partneriaethau adeiladol rhwng menywod, a allai fod yn byw ag amryw o gyflyrau iechyd sy’n aml yn anweledig, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a gwneuthurwyr polisïau.    

ARCHEBWCH LLE


Gweithdai Busnes Cymru a gynhelir yn Sir Conwy – o fis Gorffennaf 2019


Mae’r digwyddiadau i gyd yn rhad ac am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i 

https://wales.business-events.org.uk/cy/

Cynhelir yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX

Dechrau a Rhedeg Busnes - Cymryd y Plunge

Mawrth 10 Rhagfyr 2019

10.00am – 4.30pm

Cynhelir yng 16 Trinity Square, Llandudno, LL30 2RB

Dechrau a Rhedeg Busnes - Cymryd y Plunge

Mercher 9 Hydref 2019

Mercher 16 Hydref 2019

5.30pm – 8.30pm

Ennill a Chadw Cwsmeriaid 2019

Mawrth 29 Hydref 2019

5pm – 9pm

Cynhelir yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF

Dechrau a Rhedeg Busnes - Cymryd y Plunge

Mawrth 10 Medi 2019

9.30 – 4.30pm

Gweithdy Cyflwyniad i Dendro

Mercher 23 Hydref 2019

9.30am – 3.30pm

Cyflymu Cymru i Fusnesau – Gwerthwch Fwy Drwy Ddefnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol

Iau 24 Hydref 2019

1pm – 5pm

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Ennill Mwy O Gwsmeriaid Drwy Ddefnyddio CRM

Mercher 30 October 2019

9.30am – 4.30pm

Gweithdy Treth a Cadw Llyfrau

Iau 21 Tachwedd 2019

1pm – 4pm

Cynhelir yng Dylan's Restaurant Llandudno, Llandudno, LL30 1BE

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Gwerthwch Fwy Drwy Farchnata'n Ddigidol

Mawrth 12 Techwedd 2019

9am – 1pm

Cynhelir yng Coleg Llandrillo, Rhos on Sea, LL24 4HZ

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Y Digidol Amdani!

Iau 10 Hydref 2019

9.00am – 4.00pm

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Cynyddwch Draffig I’ch Gwefan

Iau 19 Rhagfyr 2019

9am – 1pm

Cynhelir yng Gwesty St George, Llandudno, LL30 2LG

Uwchgynhadledd Iechyd yn y Gweithle Cymru 2019

Iau 10 Hydref 2019

9.30am – 3.30pm

Cynhelir yng Porth Eirias, Colwyn Bay, LL29 8HH

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Offer Ar-lein I Dyfu'ch Busnes

Iau 28 Tachwedd 2019

9am – 1pm