Croeso i’n cylchlythyr Medi. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ein cynhyrchiad Man to Man yn dechrau ei daith ledled y DU ar yr 8fed a 9fed o Fedi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd y daith yn dod i ben yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd.
Yma yn y Ganolfan mae gennym ni rywbeth at ddant pawb o hip-hop, opera a phrofiadau fydd yn gwneud i chi chwerthin llond eich bol...
Pleidleisiwch dros Ganolfan Mileniwm Cymru fel Theatr Fwyaf Groesawgar y DU eleni!
Yn ystod y tymor, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio tri chynhyrchiad cyffrous Khovanshchina, From the House of the Dead ac Eugene Onegin i nodi can mlynedd ers y Chwyldro yn Rwsia.
Rhod Gilbert and Friends
1 Medi (pob tocyn wedi’i werthu)
Crazy For You
5 – 9 Medi
It's My Shout Productions
10 Medi
Faulty Towers: The Dining Experience
14 – 21 Medi (Ystafell y Preseli)
The Wedding Reception
22 Medi (Ystafell y Preseli)
Opera Cenedlaethol Cymru:
Khovanshchina
23 a 30 Medi, 7 Hydref
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Cyngerdd Prynhawn
29 Medi (Neuadd Hoddinott y BBC)
Palomino Party
29 Medi (ffresh)
Opera Cenedlaethol Cymru:
Eugene Onegin
29 Medi, 6 ac 13 Hydref
Mae’n bleser gennym gyhoeddi aelod arall fydd yn ymuno â chast Tiger Bay The Musical yr hydref yma. Bydd Suzanne Packer, un o wynebau cyfarwydd Casualty, yn chwarae’r rôl Marisha ac rydyn ni wirioneddol yn edrych ymlaen at ei chroesawu’n ôl i’r Ganolfan.
Mae Breakin’ the Bay yn ei ôl ac eleni rydyn ni’n symud i lawr uchaf y maes parcio aml-lawr Q-Park y tu ôl i’r Ganolfan. Tarwch heibio i brofi rhai o dalentau gorau’r sîn hip-hop. Yn sicr fydd rhywbeth yma i bawb felly dewch yn llu.
Sicrhewch eich bod yn cadw’r dyddiad yma’n rhydd i ddathlu deng mlynedd o Fis Hanes Pobl Dduon Cymru. Bydd perfformiadau, bwydydd blasus a llond y lle o weithgareddau i’r teulu. Rhagor o wybodaeth am weithgareddau ledled Cymru yma: bhmwales.org.uk
Cofiwch fod Gŵyl Lyfrau Caerdydd yn digwydd mis yma o 22 – 24 Medi: tri diwrnod o ddarllen, ysgrifennu, trafodaethau (a dawnsio!)
Hoffem hefyd eich hatgoffa taw dyma’r cyfle olaf i chi brynu’ch tocynnau ar gyfer The Wedding Reception, sioe gomedi a gwledda gan gynhyrchwyr Faulty Towers The Dining Experience.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus o’r Ganolfan.
Beth mae'r Ganolfan yn ei wneud i Gymru?