YDI’R LLIFOGYDD WEDI EFFEITHIO ARNOCH CHI?
9 Chwefror 2020
Os cafodd eich busnes ei effeithio gan y llifogydd diweddar yn Sir Conwy, cysylltwch ag Adain Ardrethi Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ymholiadau.trethi-annomestig@conwy.gov.uk / Ffôn: (01492) 576609 a fydd yn eich hysbysu o unrhyw rhyddhad ardrethi y gallech â hawl iddynt.
Rydym yn hynod gyffrous i fedru rhannu fersiwn drafft terfynol y Cynllun Partneriaeth newydd ar gyfer edrych ar ôl dyfodol Parc Cenedlaethol Eryri gyda chi, sef Cynllun Eryri.*
Mae'r Cynllun wedi cael ei ddatblygu yng ngwir ysbryd partneriaeth. Rydym wedi gwrando'n agos ar bobl sy'n byw, gweithio ac ymweld yma. Rydym wedi cydweithio a sefydliadau sy'n gofalu am Eryri ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi cadw Rhinweddau Arbennig Eryri wrth wraidd popeth a wnawn. Drwy weithio gyda'n gilydd, credwn y gallwn gyflawni pethau gwych.
Dyma pam rydym angen i chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei feddwl. Ydyn ni wedi adlewyrchu eich syniadau yn ddigon da? Ydych chi’n cytuno â'r Cynllun Gweithredu?
Mae'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar agor rhwng 3 Chwefror a 13 Mawrth 2020.
Gallwch weld y Cynllun a'r arolwg ymateb byr yma: www.eryri.llyw.cymru/cynlluneryri
Mae hefyd ar gael fel copi caled ym mhob llyfrgell leol, ein canolfannau croeso ac yn ein pencadlys ym Mhenrhyndeudraeth.
Rhannwch hyn mor eang â phosibl trwy eich sianeli cyfathrebu eich hun fel y gallwn dderbyn cymaint o syniadau â phosibl, os gwelwch yn dda.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
* Y Cynllun Rheolaeth Statudol Parc Cenedlaethol Eryri.
Y Tîm sydd yn Arwain Bargen Dwf Gogledd Cymru gwerth £1biliwn
Dyma’r tîm sydd yn arwain Gweledigaeth Gogledd Cymru i roi hwb i’r economi a chreu miloedd o swyddi a fydd yn trawsnewid y rhanbarth am genedlaethau i ddod.
Dan arweiniad y cyfarwyddwr Alwen Williams, bydd Swyddfa Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn arwain y gwaith o ddatblygu saith rhaglen fydd yn ffurfio Bargen Dwf Gogledd Cymru gwerth £1biliwn.
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno, y nod fydd denu buddsoddiad masnachol a chreu achosion busnes ar gyfer prosiectau blaenoriaeth yn 2020, cyn gosod y sylfaeni i gyflenwi o’r flwyddyn ganlynol ymlaen.
Fe arferai Alwen fod yn Uwch Reolwr Ardal i Openreach yn Llundain a’r De Ddwyrain, ac yn Gyfarwyddwr BT Cymru, ac mae hi’n bwriadu cydweithio gyda phob diwydiant i sicrhau fod y Fargen Dwf yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, cludiant, addysg a sawl sector arall.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi lansio menter Addewid Gwyrdd i’r Gymuned i helpu cymunedau a sefydliadau i wneud gwahaniaethau a all gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Amcan yr addewidion yw cydnabod cyfraniadau cadarnhaol trwy roi statws addewid efydd, arian, aur neu blatinwm i’w ddangos yn falch.
Er mwyn helpu i gefnogi’r flaenoriaeth hon a gwneud gwahaniaeth yn lleol, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi datblygu menter Addewid Gwyrdd i’r Gymuned sy’n nodi 5 Addewid Gwyrdd y gall cymunedau a sefydliadau eu gwneud i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae pob addewid yn cynnwys awgrymiadau a chanllaw ar bethau a all wneud gwahaniaeth – o arbed ynni i arbed arian.
Mae’r cynllun hwn yn rhad ac am ddim a gall unrhyw un ymuno – megis grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, pentrefi, trefi, elusennau, busnesau a mentrau cymdeithasol.
Os ydych chi’n prynu ty am y tro cyntaf ac yn edrych ar brynu ty gwag o fewn ardal Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghonwy, efallai bod modd i chi dderbyn grant (hyd at £25,000) i’ch helpu chi gyda chost unrhyw welliannau angenrheidiol i’r eiddo gyrraedd safon dderbyniol.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig grant i:
• Brynwyr tro cyntaf sy’n edrych ar brynu eiddo gwag neu sydd wedi prynu un ond heb symud i mewn gan fod angen gwneud gwaith.
• Mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi’i leoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghonwy
• Mae’n rhaid i’r eiddo fod yn wag am o leiaf 6 mis
• Mae’n rhaid i’r eiddo fod o fewn Treth y Cyngor bandiau A, B neu C.
• Mae’n rhaid bod gan yr ymgeiswyr gysylltiad ag ardal y Parc Cenedlaethol yng Nghonwy.
Gan fod yr arian yn gyfyngedig, mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau rhwng 30 Ionawr a 27 Ebrill 2020, a rhoddir ystyriaeth i’r ceisiadau yn ôl trefn eu derbyn. Er hynny, rhoddir blaenoriaeth yn y lle cyntaf i geisiadau lle mae’r eiddo yn Nwygyfylchi, Betws-y-coed a Phenmachno.
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb, cysylltwch â’r Tîm Strategaeth Tai ar 01492 574235 neu strategaethtai@conwy.gov.uk.
Bob blwyddyn, mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ar draws y DU i ddathlu
llwyddiannau Masnach Deg, a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud.
Yn 2020, byddwn yn parhau â'n cenhadaeth i sicrhau bod pob ffermwr yn cael ei dalu'n deg
am ei waith ac yn gallu ennill incwm byw, gan ddechrau gyda ffermwyr coco yng Ngorllewin Affrica.
Gan mai hon yw blwyddyn dau o'n hymgyrch incymau byw, gallwch barhau i ddefnyddio
adnoddau'r llynedd yn nigwyddiadau cymunedol 2020, ond bydd gennym rywfaint o
ddeunyddiau newydd sbon ar gael i'w archebu hefyd, gan gynnwys ein bomiau stori cyffrous!
Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru
Ers 1982, mae
Canolfan Gydweithredol Cymru wedi helpu i gryfhau a galluogi cymunedau Cymru
trwy gefnogi twf canolfannau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.
Ym mis Tachwedd 2019, bu iddynt lansio prosiect Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru i gefnogi busnesau cymdeithasol newydd ar draws Cymru. Mae Rob Hughes, sydd newydd gael ei benodi’n Ymgynghorydd Busnes Gogledd Cymru, yn egluro mwy am y prosiect.
‘Gall ein tîm ni o arbenigwyr gynnig cyngor un-i-un i chi i’ch helpu i ddechrau busnes cymdeithasol a gwneud iddo ffynnu. Gallwn eich cynghori o’r cam syniadau, hyd at ddechrau masnachu, ymgorffori’r busnes a hyfforddi pobl. Diolch i gyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gallwn gynnig y cymorth hwn am ddim. Mae gennym ni dîm o ddeg o bobl ar draws Cymru sy’n cefnogi busnesau newydd a phobl menter. Mae’r prosiect yn rhan o Ganolfan Gydweithredol ehangach Cymru, sy’n cyflogi 100 o staff ar draws Cymru.’
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: info@wales.coop
Ffôn: 0300 111 5050
Ar y we: cymru.coop/dechrau-newydd
Bydd Gwobrau STEM Cymru yn tynnu sylw at sêr STEM Cymru - y rhai sy’n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau hynny sy’n creu argraff ar economi Cymru, y rhai sy’n mynd i’r afael â'r bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau ym maes STEM, a'r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.
Bydd y gwobrau’n dod â’r gymuned fusnes ynghyd am y tro cyntaf i gydnabod y mentrau entrepreneuraidd ac arloesol hynny sy’n gwneud gwahaniaeth i’r sector STEM.
I fod yn gymwys i wneud cais, mae'n rhaid bod busnesau wedi dechrau masnachu ar neu cyn 1 Mai 2019 a’u bod wedi’u lleoli yng Nghymru.
Yr amser cau ar gyfer derbyn cynigion yw 5pm ar 28 Chwefror 2020 a bydd Seremoni Gwobrau STEM yn cael ei chynnal ar 1 Mai 2020.
Bydd y weminar hon yn trafod:
Sut i wneud y mwyaf o’ch cysylltiadau.
Gwneud y gorau o’ch defnydd o farchnata dros e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.
Sut i gael amser yn rhydd i ganolbwyntio ar ychwanegu gwerth i’ch busnes.
Yr apiau a’r platfformau gorau sy’n rhad ac am ddim.
Awgrymiadau gwych i gymryd camau ymarferol heddiw!
Ymunwch â’r marchnatwr llwyddiannus, Minal Patel, sefydlydd Marketing By Minal, a fydd yn rhannu ei chyngor gorau ar farchnata busnesau bach yn ddigidol, gan gynnwys gwneud y mwyaf o’ch cysylltiadau, gwneud y gorau o bethau syml fel marchnata dros e-bost a chael amser yn rhydd i ganolbwyntio ar ychwanegu gwerth i’ch busnes.
Mae BT Skills for Tomorrow yn gweithio mewn partneriaeth â peak b, cwmni ymgyrchu dros fusnesau bach, i ddysgu sgiliau digidol i fusnesau bach ar draws y DU. Bydd hyn yn cynnwys gweithdai diddorol, hyfforddiant digidol rhyngweithiol, cyffrous a chymorth, cyngor a thameidiau o wybodaeth ymarferol, go iawn.
Dyma gyfle arbennig i gyfarfod tim yr Hwb Menter a Andy Ainscough, rheolwr gyfarwyddwr Adventure Parc Snowdonia.
Mae Andy wedi llywio un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf trawiadol a llwyddiannus Gogledd Cymru o’i ddechreuad annhebygol i’r llwyddiant rhyfeddol y mae heddiw.
Adeiladwyd Adventure Parc Snowdonia ar safle gwaith alwminiwm diffaith a oedd unwaith yn eiddo i'r cawr alwminiwm byd-eang Alcoa.
Prynodd Grŵp Ainscough y safle a glanhau 100 mlynedd o wastraff diwydiannol a llygredd yn y cyfnod cyn-adeiladu. Agorodd Surf Snowdonia ar 1 Awst, 2015.
Yn sgil buddsoddiad ychwanegol dros aeaf 2018-19, ehangodd y parc antur ei gynnig yn sylweddol, gyda lansiad Adrenalin Dan Do cwbl dywydd, a chyfleuster cyffrous sy'n cynnwys dringo, ogofa, sleidiau eithafol a phrofiadau ymosodiadau ninja.
Fel rhan or digwyddiad fe gewch gyfle i fynd ar Adrenalin Dan Do.
Bwriad y digwyddiad yw dangos sut mae technoleg newydd yn gallu cynorthwyo busnesau yng Nghymru i fod yn fwy cystadleuol, arloesol a phwysicaf oll, cynaliadwy ym marchnad byd eang heddiw.
Bydd y digwyddiad yn dangos y gwahanol fanteision drwy ddefnyddio astudiaethau achos gan bartneriaid diwydiannol i amlygu’r newyddbeth a grëwyd, a chyfle i gael sesiwn Cwestiwn ac Ateb. Hefyd bydd cyfle i’r diwydiant awgrymu syniadau a gofynion ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
BETH YW SPARC II?
Pwrpas y cyllid ymchwil yw adeiladu capasiti ymchwil mewn ymchwil ffotofoltäig solar, i sicrhau bod y tîm SPARC II yn gallu denu cyllid ymchwil cystadleuol sylweddol a fydd yn galluogi partneriaethau ymchwil newydd gyflawni ymchwil arloesol ac yn arwain at drosglwyddo technoleg effeithiol yn y dyfodol.
Bydd yr ymchwil yn ceisio datrysiadau gwerth ychwanegol i’r heriau technoleg a fydd yn darparu cyfleoedd gweithgynhyrchu a chyflenwi newydd ar gyfer diwydiant Cymru.
BETH YW ASTUTE 2020?
Mae ASTUTE 2020 (Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy) yn cael ei arwain yn ôl galw’r diwydiant. Rhaglen ar y cyd i gynorthwyo cwmnïau o bob maint ganfod a symud Technoleg Deunyddiau, Modelu Peirianneg Cyfrifiadurol neu Beirianneg System Gweithgynhyrchu ymlaen. I grynhoi, mae cwmnïau yn manteisio Industry 4.0 y pedwerydd chwyldro diwydiannol a darparu cynaliadwyedd a budd economaidd ar draws Cymru.
BETH YW CPE?
Bwriad Canolfan Arbenigedd Ffotoneg (CPE) yw cyflymu twf busnes drwy gydweithio â diwydiant i gefnogi datblygu prosesau, cynnyrch neu systemau drwy dechnoleg ffotoneg.
Mae technoleg ffotoneg y DU yn cael ei gydnabod fel diwydiant cynyddol, gyda chyfraddau twf blynyddol o 5-9%, ac yn cyfrannu dros £13.5 biliwn i’r economi ar hyn o bryd, ac mae bwriad i ymestyn ymhellach drwy ei rôl hanfodol wrth alluogi newyddbethau hanfodol a chynaliadwyedd cynyddol ar draws pob sector diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y digwyddiad isod: