Ionawr 2020 

English version to follow 



  Business Four Gogledd Cymru 

 Mae cwmnïau cyllid, cyfrifyddiaeth a chyfraith blaenllaw wedi uno er mwyn rhoi sgyrsiau a chyngor mewn cyfres o ddigwyddiadau busnes am ddim.

Mae Cyfreithwyr Edward Hughes, Cynllunio Ariannol Bowden, Cyfreithwyr Masnachol a Methdaliad Knox a Chyfrifyddion Williams Denton, ymysg y cwmnïau mwyaf cydnabyddedig ac uchel eu bri yng Ngogledd Cymru.

Maent wedi uno i drefnu Business Four North Wales, digwyddiad a gynhelir gan y pedwar cwmni, bedair gwaith y flwyddyn, gyda phedair thema wahanol.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf ym mwyty Porth Eirias ym Mae Colwyn ddydd Gwener, 24 Ionawr, a bydd yn cynnwys rhwydweithio, lluniaeth a chyfle i eistedd gyda’r pedwar cwmni fel rhan o glinig cymorth ac arweiniad.

DARLLEN  MWY



Cymorth Cyfraddau Busnes

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £24.2 miliwn i estyn cynllun cymorth gyda chyfraddau’r stryd fawr yn 2020-21.

Bydd tua 15,000 o fusnesau, gan gynnwys siopau, bwytai, caffis a thafarndai yn derbyn cefnogaeth well i dalu eu biliau ardrethi o fis Ebrill 2020.

Gall eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000 dderbyn hyd at £2,500 tuag at gost Cyfraddau Busnes o dan y cynllun £24.2 miliwn.

Cliciwch YMA i ddarllen Datganiad Ysgrifenedig y Cabinet

Manylion cyswllt:

Post: Cangen Polisi Trethi Lleol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: LocalTaxationPolicy@gov.wales

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygiedig) 2019

Cliciwch YMA i ddarllen y Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2019, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn egluro nad yw peiriannau ATM a werthir ar wahân yn gymwys ar gyfer SBRR, yn unol â safbwynt polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru. Daw’r Gorchymyn i rym o 1 Ebrill 2020. 



GwerthwchiGymru 
Eich cyfle i ennill busnes gan y sectorcyhoeddus

Ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael yw'r wefan GwerthwchiGymru newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw:

- helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru

- helpu prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendr

- helpu busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau

- helpu busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd tendro addas

Bob blwyddyn bydd gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon. Caiff y contractau hyn eu cynnig gan amrywiaeth eang o gyrff sy'n cael eu hariannu drwy ffynonellau cyhoeddus, yn cynnwys:

- Llywodraeth Cymru

- awdurdodau lleol

- ymddiriedolaethau GIG

- colegau a phrifysgolion

DARLLEN MWY




Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy ar agor

Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn gartref i’r Llyfrgell Ardal newydd (yn disodli’r llyfrgelloedd yn Neganwy, Cyffordd Llandudno a Chonwy) ac mae’n cynnwys arddangosfeydd treftadaeth newydd bywiog yn llawn gwrthrychau a lluniau sy’n adrodd hanes cyfoethog y sir.

Yr oriau agor yw:

Dydd Llun 09.30 - 17.00
Dydd Mawrth 10.00 - 19.00
Dydd Mercher 09.30 - 17.00
Dydd Iau 09.30 - 17.00
Dydd Gwener 09.30 - 17.00
Dydd Sadwrn 10.00 - 13.00

Gall ymwelwyr fwynhau’r cynnyrch lleol gorau, bwyd a choffi yn y Cantin, y bwyty a’r caffi sydd wedi agor yn ddiweddar.

Yna, yn y gwanwyn bydd Gwasanaeth Archif y sir yn symud eu casgliadau i’r islawr (a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cynnal tymheredd cyson a lleithder i ddiogelu eitemau bregus) ac yn agor cyfleusterau’r archif a’r ystafell chwilio archifau i’r cyhoedd.

Bydd y mannau sydd wedi’u tirlunio o amgylch y ganolfan yn cynnwys gardd synhwyraidd heddychlon gyda llwybrau a seddi hygyrch sy’n ystyriol o bobl â dementia.

Trefnir seremoni agoriad swyddogol yn y gwanwyn 2020.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Sam Rowlands: “Mae’r ganolfan newydd wych hon yn dod ag amrywiaeth o wasanaethau ynghyd o dan un to. Bydd y gofod a adeiladwyd yn bwrpasol yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau mwy hyblyg gydag oriau agor hwy, tra’n lleihau costau cynnal.”

Dywedodd y Cyng. Mark Baker, Aelod Cabinet Treftadaeth a Diwylliant Cabinet Conwy: “Bydd Canolfan Ddiwylliant Conwyn yn drysordy ein harchifau, er mwyn cadw a diogelu ein heitemau hanesyddol. Bydd y ganolfan yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer y gymuned leol, a phorth i hanes Sir Conwy.”

Ariennir y Ganolfan Ddiwylliant a’r ardd synhwyraidd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru (yr Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Cymunedau LDT, Cronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.



Archwiliad Iechyd y Stryd Fawr 2020

Allwch chi helpu i ledaenu’r gair?

Yr wythnos hon, lansiodd Achub y Stryd Fawr ymgyrch i archwilio iechyd y stryd fawr.

Eu nod yw deall pa mor barod yw’r stryd fawr i gwrdd â’r heriau yn 2020...

... Tra’n helpu pob busnes lleol sy’n llenwi’r arolwg i gyflawni eu potensial eu hunain ar y stryd fawr eleni.

Po fwyaf o fusnesau sy’n ymuno â’r ymgyrch, po fwyaf cyflawn yw’r darlun a ddatblygir o heriau a chyfleoedd ar draws y DU, ym mhob sector ac ar bob stryd fawr.

Fel yr amlinellwyd ar dudalen flaen yr arolwg ... bydd pob busnes ar y stryd fawr sy’n ei lenwi yn derbyn adroddiad archwiliad iechyd a sgôr, 3 syniad gorau i ddatblygu eu refeniw, mynediad i ddata unigryw ar eu cyfleoedd marchnad eu hunain a’r dewis o alwad ymgynghoriaeth gydag arbenigwr marchnata ar y stryd fawr. Y cyfan am ddim.

Byddwn hefyd yn rhannu canfyddiadau o’r ymchwil hwn (dienw wrth gwrs) gydag unrhyw un sy’n ymuno neu’n cefnogi’r ymgyrch y mis hwn.

Bydd yr arolwg yn aros yn agored drwy fis Ionawr gyda busnesau yn derbyn eu harchwiliad iechyd eu hunain erbyn yr wythnos gyntaf ym mis Chwefror fan bellaf.

Dylai’r arolwg gymryd tua 9 munud i’w gwblhau.

LINK I AROLWG


 

Cymru’n cyhoeddi “Blwyddyn Awyr Agored”

Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi mai’r thema ar gyfer 2020 fydd ‘Blwyddyn Awyr Agored’.

Mae’r thema hon yn dilyn thema 2019 sef ‘Blwyddyn Darganfod’.

Bydd y Flwyddyn Awyr Agored yn dathlu tirweddau naturiol ysblennydd Cymru, sydd yn llawn anturiaethau blaenllaw a diwylliant cyfoes a nodedig. Bydd Llwybr Yr Arfordir sy’n 870 milltir; 3 Parc Cenedlaethol; 600 Castell, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Gwarchodfeydd Awyr Dywyll – i gyd yn cael eu mwynhau yn 2020.

Mewn ymateb i’r adborth gan y diwydiant, bydd y thema o 2020 ymlaen yn para am 2 flynedd.

Mae'r blynyddoedd thematig wedi'u cefnogi gan y diwydiant, ac maent yn canolbwyntio'n glir ar gydweithio a newid cynnyrch ledled Cymru - gyda chyfnod hwy yn rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer prosiectau a syniadau mwy.

Bydd Blwyddyn Awyr Agored yn cynnwys dwy arddangosfa ryngwladol fawr i’w cynnal yn 2020 yng Ngwesty’r Celtic Manor a Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch YMA


 

Cwrdd yng Nghymru

Mae Croeso Cymru wedi lansio Cwrdd yng Nghymru i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer cyfarfodydd, mentrau, cynadleddau a digwyddiadau, a syniadau meithrin tîm a lletygarwch corfforaethol.

Bu i Gymru dynnu sylw at fudd natur er lles unigolyn drwy lansio ‘Blwyddyn Awyr Agored’ yn ystod y digwyddiad IBTM World yn Barcelona.

Agorwyd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ym mis Medi 2019 ac mae’r ganolfan eisoes yn adnabyddus am ei ffordd unigryw o gynnwys yr awyr agored, gyda golygfeydd arbennig o goetir, golau dydd naturiol ym mhob rhan o’r adeilad ac ardaloedd cyfarfod yn yr awyr agored.

Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn lleoliad gwbl newydd i Gymru ac mae’n sefydlu’r wlad gyfan fel lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau busnes.

Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth (1)

I gael rhagor o wybodaeth am gynnyrch Cymru ac i gofrestru ar gyfer yr e-newyddlen, ewch i’r wefan MeetInWales.com

Cewch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol:

Twitter / LinkedIn / Instagram

#CwrddyngNghymru    


 

Y Papur £20 Newydd

Mae Banc Lloegr wedi datgelu dyluniad y papur £20 newydd yn ddiweddar, sy’n cynnwys llun yr artist JMW Turner.

Bydd yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf ar 20 Chwefror 2020.

Mae’r papur £20 polymer yn cynnwys nodweddion diogelwch tra datblygedig, sy’n golygu mai dyma bapur banc mwyaf diogel Banc Lloegr hyd yma. Am y tro cyntaf, mae’r papur yn ymgorffori dwy ffenestr a ffoil dau liw, gan ei wneud yn anodd iawn ei ffugio.

Mae papurau polymer yn para’n hirach na’r hen bapurau ac yn aros mewn gwell cyflwr o’u defnyddio o ddydd i ddydd. Bydd y papur hwn, fel y £10 polymer, yn cynnwys nodwedd gyffyrddol i helpu pobl â nam ar eu golwg i adnabod ei werth.

Gall y cyhoedd barhau i wario’r papur £20 presennol fel arfer a bydd y rhain yn cael eu tynnu’n ôl yn raddol wrth i fanwerthwyr a’r cyhoedd eu bancio. Bydd rhybudd yn cael ei roi chwe mis cyn tynnu statws arian cyfreithlon y papur £20 presennol yn ôl.

DARLLEN MWY


Digwyddiadau i Ddod 



Ai chi fydd Busnes Bach y Flwyddyn Ffederasiwn y Busnesau Bach?

Gwobrau Dathlu Busnesau Bach yr FSB – dyddiad cau’n nesáu

Mae’r dyddiad cau i ymgeisio’n dod yn nes o hyd – 24 Ionawr 2020 – felly cofiwch roi hyn ar eich rhestr o bethau i’w gwneud rhwng rŵan a hynny!

Ymgeisiwch â’ch busnes YMA

Mae’r gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad aruthrol a wneir gan fusnesau bach ac unigolion hunangyflogedig i’r DU.

Os hoffech chi roi cynnig arni, ac arnoch chi angen ychydig o ysbrydoliaeth, beth am fwrw golwg dros enillwyr y gwobrau Cymreig yn 2019? 



Beth Sydd Ymlaen 


- Yng Nghanolfan Fusnes Conwy
- Yn Sir Conwy
- Busnes Cymru a Cyflymu Cymru

Cliciwch YMA i gael yr holl fanylion am yr holl ddigwyddiadau busnes sydd ar ddod






Gweithdai Busnes Cymru a gynhelir yn Sir Conwy – o fis Tachwedd 2019


Mae’r digwyddiadau i gyd yn rhad ac am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i 

https://wales.business-events.org.uk/cy/

Cynhelir yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX

Dechrau a Rhedeg Busnes - Cymryd y Plunge

Mawrth 10 Rhagfyr 2019

Mawrth 11 Chwefror 2020

Mawrth 10 Mawrth 2020

10.00am – 4.30pm

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Office 365 yn ehangu eich busnes

Mawrth 24 Mawrth 2020

9.00am – 1.00pm

Gweithdy brandio a marchnata

Mawrth 31 Mawrth 2020

9.30am – 4.30pm

Cynhelir yng 16 Trinity Square, Llandudno, LL30 2RB

Dechrau a Rhedeg Busnes - Cymryd y Plunge

Llun 27 Ionawr – Llun 3 Chwefror 2020

5.30pm – 8.30pm

Cynhelir yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF

Dechrau a Rhedeg Busnes - Cymryd y Plunge

Gwener 21 Ionawr 2020

10.00am – 4.30pm

Gweithdy Cyflwyniad i Dendro

Iau 5 Mawrth 2020

9.30am – 4.30pm

Cynhelir yng Dylan's Restaurant Llandudno, Llandudno, LL30 1BE

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Gwerthwch Fwy Drwy Farchnata'n Ddigidol

Mawrth 25 Chwefror 2020

9am – 1pm

Cynhelir yng Coleg Llandrillo, Rhos on Sea, LL24 4HZ

Cyflymu Cymru i Fusnesau - Cynyddwch Draffig I’ch Gwefan

Iau 19 Rhagfyr 2019

9am – 1pm

Cynhelir yng CAIS, Station Court, Colwyn Bay, LL29 8BP

Cyflymu cymru i fusnesau – gwerthwch fwy drwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

Gwener 28 Ionawr 2020

9.00am – 1.00pm    



Hoffem ddiolch i’n holl ddarllenwyr am eu cefnogaeth a dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lwyddiannus i chi gyd.